Rhoi Creiriau

Rydym yn dal i ddatblygu ein casgliadau yma yn STORIEL. Os ydych yn credu bod gennych rywbeth yr hoffech ei roi i’r amgueddfa, cysylltwch â’n Swyddog Casgliadau.

Er ein bod yn ddiolchgar iawn pan fydd pobl yn cynnig pethau i ni, mae arnom ofn na allwn dderbyn popeth a gynigir i ni.  Peidiwch â bod yn siomedig os na allwn dderbyn eich eitem chi – fe wnawn ni geisio’ch helpu i ganfod cartref addas ar ei chyfer. Dim ond rhoddion neu fenthyciadau tymor byr yr ydym yn eu derbyn ar gyfer arddangosfeydd dros dro. Nid ydym yn derbyn adneuon na benthyciadau hirdymor.  Rydym yn gofyn yn garedig i chi beidio â dod ag eitemau i’r amgueddfa na’u postio atom cyn ymgynghori â’r Swyddog Casgliadau yn gyntaf.

Pethau yr ydym yn eu casglu

Arteffactau sydd â chysylltiad â Gwynedd a’i phobl

Deunyddiau archaeolegol yn ymwneud â Gwynedd. Rydym yn cydweithio â Chynllun Henebion Cludadwy Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd https://finds.org.uk.Os yw’r eitem yn Drysor Cudd, cewch ragor o gyngor yma: https://finds.org.uk/treasure.

Pethau nad ydym yn eu casglu

Unrhyw ddeunyddiau archifol fel dogfennau, ffotograffau, llythyrau, rhaglenni, llyfrau. Rydym yn cyfeirio deunydd archifol at Wasanaeth Archifau Gwynedd.

Arteffactau pan mae gennym sawl eitem tebyg yn barod yn y casgliad, oni bai ei fod o arwyddocâd arbennig

Arteffactau sydd heb stori gyd-destunol iddynt

Arteffactau sydd mewn cyflwr gwael iawn

Arteffactau lle nad yw’n glir pwy sy’n berchen arnynt

I gael rhagor o fanylion beth rydym a beth nad ydym yn eu casglu, darllenwch ein Polisi Datblygu Casgliadau.