Model o Bont y Borth

Gwnaed y model hwn o bres gan Richard Dorkins, saer pres oedd yn gweithio ar Stryd Fawr Bangor. Cafodd ei baratoi ar gyfer Eisteddfod Freiniol Bangor yn 1874. Costiodd £90 yn 1874 (sy’n cyfateb i £7000 heddiw).

Cyn 1826, roedd teithwyr ar y siwrnai hir o Lundain i Gaergybi yn wynebu taith beryglus ar fferi ar draws Afon Menai i gyrraedd Ynys Môn. Wrth i drafnidiaeth gynyddu, daeth yn amlwg bod angen pont i groesi’r culfor. Derbyniodd Thomas Telford yr her o arwain y gwaith peirianyddol ac, yn 1819, dechreuodd ar y gwaith o adeiladu pont a fyddai’n ddigon uchel fel y gallai llongau hwyliau mawrion basio oddi tani. Agorwyd Pont Menai (neu Bont y Borth fel y’i gelwir yn lleol), ar 30 Ionawr 1826, ac roedd yn gampwaith peirianyddol. Cafodd ei hadeiladu i bontio 579 troedfedd o lan i lan ac roedd lle i longau 100 troedfedd basio o dan y ffordd ar lanw uchel.

Bydd ymwelwyr heddiw yn sylwi ar newidiadau mawr i’r bont ers ei hadeiladu. Gwnaed cryn dipyn o waith ailadeiladu ar Bont Menai ddiwedd y 1930au pan newidiwyd y gwaith haearn gwreiddiol am gadwyni dur ac adeiladu ffordd newydd a fyddai’n gallu dal pwysau trafnidiaeth fodern.