Gŵn Graddio

Gŵn Graddio’r Fonesig Margaret Verney. Margaret Maria Verney (1844-1930) oedd merch hynaf Syr John Hay-Williams, Ail Farwnig Williams o Fodelwyddan, a’i wraig, y Fonesig Sarah o Blas Rhianfa. Priododd â Syr Edmund Hope Verney, A.S., ym 1868.

Fel hanesydd ac addysgydd, chwaraeodd ran weithgar yn y mudiad dros addysg uwch yng Nghymru. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol Llys Llywodraethwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn aelod o Gyngor Statudol Prifysgol Cymru. Ym 1919, fe’i penodwyd yn Is-ddirprwy Ganghellor ym Mangor, a derbyniodd radd LLD er anrhydedd. Sefydlwyd Cronfa Ysgoloriaeth Margaret Verney gan deulu a ffrindiau er cof amdani.

Dyma’r gŵn a wisgodd wrth iddi dderbyn ei gradd er anrhydedd. Y Fonesig Verney sy’n derbyn y clod am y syniad o ddefnyddio sidan symudliw yn nyluniad gynau graddio Prifysgol Cymru. Mae’r gŵn yma o ddefnydd coch o siâp doethuriaid Caergrawnt wedi ei addurno hefo sidan symudliw piws, lliw Cyfadran y Gyfraith.

Ym 1904, cyhoeddodd y Fonesig Verney gyfrol o Atgofion y Teulu Verney yn ystod yr Ail Ganrif ar Bymtheg. Treuliodd flynyddoedd olaf ei bywyd yn byw ym Mhlas Rhianfa, Môn.

Mae hon yn gaffaeliad diweddar i’r casgliad.