Medal Eisteddfod

Medal a enillwyd gan Eben Fardd yn Eisteddfod Powys, Y Trallwng, 1824 am ei awdl ‘Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid’.

Tu blaen i’r fedal

Ganwyd Ebenezer Thomas ‘Eben Fardd’ (1802-1863) yn Nhanlan ger Llangybi, Eifionydd. Gwehydd oedd ei dad ac roedd Ebenezer hefyd yn hyfedr yn y grefft. Bu’n rhedeg ysgolion yn Llangybi, Llanarmon ac yn ddiweddarach symudodd i bentref Clynnog Fawr i edrych ar ôl yr ysgol yno. Yn 1842 torrodd pob cysylltiad â’r Eglwys gan sefydlu ysgol yn ei gartref yng Nghlynnog. Symudwyd yr ysgol i’r capel yn 1845.

Magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth o oedran ifanc ac roedd yn adnabod beirdd eraill enwog Eifionydd – Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn o Eifion. Yn 1840 enillodd yn Eisteddfod Lerpwl am ei awdl ‘Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob’.  Fe’i ystyriwyd yn ei ddydd yn un o feirdd blaenllaw Cymru. Yn ogystal ag ennill mewn eisteddfodau, ysgrifennodd amryw gerdd arwrol, penillion achlysurol, casgliad o emynau a chyfrannodd yn helaeth i gyfnodolion y cyfnod.

Mae portread llun olew o Eben Fardd yng nghasgliad Storiel. Yn y portread mae’n eistedd mewn cadair farddol yn gwisgo’r fedal yma. Gwnaethpwyd y llun gan Evan Williams (1816-1878) ac fe’i cyflwynwyd i Eben yn Eisteddfod Madog yn 1851. Bydd y portread yma yn cael ei arddangos yn yr arddangosfa ‘Edrych ar Gelf’ yn y prif oriel.