Clapiwr ŵy

Roedd clepiau wyau adeg y Pasg yn arferiad yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru. Yn ystod yr wythnos cyn y Pasg byddai plant yn ymweld a ffermydd yr ardal gan gario ychydig o gerrig o’r maint priodol. Gwnaethpwyd clepwyr pren weithiau i’w defnyddio yn lle cerrig, fel yr un sydd yma. Byddai’r plant yn clapio’r clepwyr hefo’i gilydd gan llafarganu’r geiriau canlynol ‘Clap, clap, gofyn ŵy, i hogia’ bach ar y plwy’. Gallai’r plant gasglu gymaint â 150 i 200 o wyau yr un a byddai’r rhain yn cael eu gosod mewn lle amlwg ar y dreser yn eu cartrefi gydag wyau’r plentyn hynaf yn cael eu gosod ar y silff uchaf a rhai yr ail ar yr ail silff ac yn y blaen. Cafodd yr arferiad yma effaith niweidiol ar bresenoldeb y plant yn yr ysgol ac o ganlyniad bu i rai ysgolion ddathlu’r arferiad hefo gwyliau ysgol swyddogol.

Cyflwynwyd y clapiwr ŵy yma i’r Amgueddfa gan Mrs Elizabeth Hughes, Tŷ Capel, Llanfairpwll ac fe’i gwnaethpwyd iddi hi gan ei thad Owen Jones, saer, o gwmpas 1835.

Mae’r clapiwr ŵy yn cael ei arddangos yn y cas diwylliant a thraddodiadau yn Oriel 4.