Baner Dirwestol Beddgelert

Ar Dachwedd 26ain 1836 sefydlwyd Cymdeithas llwyr-ymataliol Beddgelert i geisio gwella cymdeithas drwy wrthod diod meddwol a “sobri’r wlad”. Datganwyd wrth sefydlu y gymdeithas:

“Ffurf newydd ar rinwedd i wrthsefyll drygioni dynion yw arwyddlun y Gymdeithas hon.”

A dyma arwyddlun a welwn ni ar y faner hon. O fewn dim i’w sefydlu, prynwyd y “Faner Fawr” gan y gymdeithas ym Meddgelert i gael “troi allan yn fyddin lawen a ffyddiog i’r prif-ffyrdd i geisio dylanwadu ar y meddwon mwyaf ystyfnig.”.

Mae’r darlun ar y faner yn dehongli bywydau ‘meddwyn’ a ‘dirwestwr’ a chaiff ei ddisgrifio gan Carneddog yn fel hyn:

“Phwy na thosturia wrth y wraig yn wylo yn ei charpiau… Y mae yn syllu yn drist ei gwedd ar ei phriod…yn feddwyn…” yno mewn cyferbyniad “Pwy na ymlonna wrth graffu ar ffrwyth cysur teuluaidd?… Y fath olygfa! Y meddwyn tlawd allan yn ddi-gartref, a’r dirwestwr a phob hapusrwydd o’i deutu.

Defnyddiwyd y Faner i orymdeithio drwy’r ardal a chyfansoddwyd cân am y Faner ar gyfer gwasanaeth Cymdeithas Dirwestol Beddgelert ddydd Calan 1837 sydd yn adlewyrchu yr olygfa ar y Faner:

“Tosturia, fy ffrind, wrth dy deulu- Dy briod anwylgu, a’th blant, Maent hwy yn drist-wedd yn dy gartref, Yn dioddef oherwydd dy chwant; Mae’r llyfr yn agored bob amser, A chwifio mae’r ‘Faner deg, fawr’…. (1 o 23 pennill, Gruffydd Prisiart)

Dywed Carneddog: “Yn sicr dylid ei chadw mewn rhyw Amgueddfa fel dangoseb o brif grair y brwydrau mwyaf bendithiol a ymladdwyd erioed yn ein gwlad.”. Rhoddwyd y Faner i gasgliad yr Amgueddfa yn 1965.

Daw y gwybodaeth uchod o ysgrif Carneddog “Ymdrech Dirwest” yn Cymru (Vol 19, 1900, 173-181).