Arwydd tafarn Four Alls

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gallai peintiwr wrth ei grefft, heb hyfforddiant ond gyda thipyn o brofiad, ennill bywoliaeth yn tynnu lluniau ar gyfer mannau cyhoeddus megis eglwysi, siopau neu dafarndai fel yr arwydd tafarn hwn o Bant Caerhun, ger Bangor, Gwynedd.

Roedd arwyddion, symbolau, arfau herodrol, chwedlonau lleol, arwyr a ffigyrau cenedlaethol yn bynciau amlwg. Mae’r pedwar cymeriad yn y llun yma yn hawdd i’w hadnabod trwy eu gwisg, a mae eu swyddogaethau a’u lle yn yr hierarchaeth cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi.

Fel arfer roedd y math yma o beintiadau yn ddienw, ond fe wyddom bod y llun yma wedi cael ei beintio gan D.J. Williams, Porthaethwy. Fe’i peintiwyd ar fyrddau pren ac mae wedi goroesi’r elfennau dros gyfnod maith.